Mae gyrrwr wedi’i arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus, yn dilyn damwain rhwng wyth cerbyd a laddodd bedwar o bobol yn ne Lloegr.

Roedd y ddamwain yn gyfrifol am gau rhan o briffordd yr A34 yn sir Berkshire am rai oriau neithiwr, wedi i bedair lori a phedwar car fod mewn gwrthdrawiad tua 5yp.

Mae’r heddlu wedi cadarnhau fod pedwar o bobol wedi’u lladd yn y fan a’r lle, tra bod dyn wedi’i gludo i Ysbyty John Radcliffe, Rhydychen, yn diodde’ o anafiadau sy’n bygwth ei fywyd. Mae dau o bobol eraill wedi’u cludo i Ysbyty Frenhinol Berkshire yn diodde’ o fân anafiadau.

Fe gafodd naw o bobol eraill a gafodd eu hanafu, eu trin ar fin y ffordd ger East Isley, dim yn bell o gyffordd yr M4.