Mae corff rheolwr gyfarwyddwr tîm pêl-droed Oxford City wedi cael ei ddarganfod yn stadiwm y clwb.

Cafodd yr heddlu eu galw am 9.20 fore Sul ar ôl i gorff Colin Taylor gael ei ddarganfod.

Mewn teyrnged ar wefan y clwb, dywedodd llefarydd ei fod wedi marw’n sydyn.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu nad ydyn nhw’n trin ei farwolaeth fel un amheus, a’u bod yn trosglwyddo’r achos i’r crwner.

Mae ei deulu wedi cael gwybod.