Andrew Leadsom, arwres y dde eithaf (llun: PA)
Er na fydd ganddyn nhw bleidlais i ddewis arweinydd newydd i’r Torïaid, mae Nigel Farage a’r mudiad eithafol asgell dde Britain First wedi datgan eu cefnogaeth i Andrea Leadsom.

Dywed Nigel Farage fod Andrea Leadsom yn “agored, uniongyrchol a chyfeillgar hyd yn oed” tra bod ei gwrthwynebydd Theresa May yn “ddynes oeraidd iawn a allai’n hawdd fod wedi cael ei gwneud o alabaster”.

Dywed arweinydd Ukip, a gyhoeddodd ddechrau’r wythnos y bydd yn rhoi’r gorau iddi, ei fod hefyd yn amheus o agweddau gwleidyddol yr Ysgrifennydd Cartref:
“Y bleidlais Brexit oedd y bleidlais fwyaf yn ein hoes ac fe fethodd Mrs May y prawf,” meddai.

“Mae rhai’n dweud bod arni eisiau Brexit mewn gwirionedd, ond os yw hynny’n wir dw i’n credu bod ei gweithredoedd yn dangos llwfrdra.

“Os oedd hi’n credu o ddifrif yn rhyddid ein gwlad, yna dylai fod wedi dangos hynny.”

Mewn fideo propaganda, mae Britain First yn collfarnu’r Ysgrifennydd Cartref fel “cydymffurfiwr bradwrus â’r Uned Ewropeaidd” a “chefnogwr cyfraith Islamaidd sharia” ac yn dangos lluniau ohoni’n gwisgo sgarff am ei phen wrth ymweld â mosg.

Mae’r fideo’n disgrifio Andrew Leadsom fel “gwladgarwr, Cristion, o blaid Prydain, gwrthwynebydd cywirdeb gwleidyddol a gwrthwynebwr ffyrning uwch-wladwriaeth fethiannus yr Undeb Ewropeaidd”.