Y Frenhines Elizabeth II (llun: Senedd TV)
Mae’r canwr Rod Stewart wedi cael ei urddo’n farchog ar achlysur pen-blwydd y Frenhines yn 90 oed.

Ymhlith y rhai eraill i gael eu hanrhydeddu mae’r gofodwr Tim Peake, y Fonesig Vera Lynn, y cyflwynwyr teledu Ant a Dec, yr actor Brian Blessed a’r actores Penelope Wilton.

Mae Rod Stewart, 71, wedi’i anrhydeddu yn sgil ei gyfraniad i’r byd cerddoriaeth ac elusennau.

Mae Tim Peake yn derbyn medal CMG  am ei waith ymchwil ym myd gwyddoniaeth.

Mae’r Fonesig Vera Lynn yn derbyn anrhydedd Companion of Honour.

Mae Ant a Dec yn derbyn yr OBE am eu gwasanaeth i’r byd darlledu ac adloniant, a Blessed yn ei derbyn am ei wasanaeth i’r celfyddydau ac elusennau.

Mae Penelope Wilton yn dod yn Fonesig am ei gwasanaeth i fyd y ddrama.

Byd y campau

 Mae capten tîm criced Lloegr Alastair Cook a chyn-gapten tîm pêl droed Lloegr, Alan Shearer yn derbyn y CBE.

Mae Jamie Murray – brawd Andy –a chapten tîm Prydain yn y Davis Cup, Leon Smith yn derbyn yr OBE.

Ond hanner canrif ers codi Cwpan y Byd, does neb o blith carfan bêl-droed Lloegr 1966 ar y rhestr.