Martin McGuinness - ar ei ffordd i'r Somme (CCA 2.0)
Mae un o brif arweinwyr Sinn Fein wedi ymweld â rhai o feysydd brwydro’r Rhyfel Byd Cyntaf yn y gobaith y bydd hynny’n helpu i greu cymod gartre’.
Yfory, fe fydd Martin McGuinness, sydd hefyd yn Ddirprwy Brif Weinidog ar Ogledd Iwerddon, yn teithio i’r Somme i gofio dechrau’r frwydr fawr a laddodd filoedd o Unolaethwyr o Ulster.
Fydd e ddim yn mynd i’r seremoni swyddogol i gofio’r frwydr ar 1 Gorffennaf, meddai, rhag ofn i hynny gythruddo pobol.
Y cefndir
Roedd tua 36,000 o Unolaethwyr Protestannaidd wedi eu lladd yn niwrnod cynta’r frwydr yn 1916 ac mae rhan y ddwy garfan o Wyddelod yn y Rhyfel Mawr yn parhau’n ddadleuol.
Tra oedd llawer o Unolaethwyr yn ymladd tros wledydd Prydain, roedd cenedlaetholwyr wedi dechrau gwrthryfel yn erbyn y Deyrnas Unedig.
Er hynny, fe fu milwyr o’r gymuned genedlaetholgar Babyddol hefyd yn ymladd yn y Somme.
‘Cymod’
“Dw i’n gobeithio y bydd yr ymweliad yma’n gam arall tuag at gymod,” meddai Martin McGuinness. “Mae’n gyfle i gofio’r gorffennol mewn ffordd aeddfed a chreu gwell dyfodol i bawb.”