Yr ymgyrchwyr yn dringo waliau'r amgueddfa Llun: Wynne Melville Jones
Mae ymgyrchwyr amgylcheddol wedi dringo waliau’r Amgueddfa Brydeinig mewn protest yn erbyn arddangosfa newydd sydd wedi’i noddi gan gwmni olew mawr BP.

Bu’r amgueddfa ynghau “dros dro” i ymwelwyr “am resymau diogelwch” ar ôl i ddegau o ymgyrchwyr Greenpeace gynnal y protest ar y safle yng nghanol Llundain.

Yn ôl yr ymgyrchwyr, mae’n “eironig” bod yr arddangosfa Sunken Cities, sy’n dangos gwaith llaw o ddinasoedd hynafol wedi’u boddi ym Môr y Canoldir, yn cael ei noddi gan gwmni sy’n cyfrannu at newid hinsawdd.

Mae’r dringwyr i’w gweld ar bileri blaen yr amgueddfa ar ddiwrnod cyntaf yr arddangosfa, ac yn gollwng baneri sy’n nodi dinasoedd a rhanbarthau sydd wedi’u heffeithio gan lifogydd a stormydd – trychinebau amgylcheddol a fydd, medden nhw, yn cynyddu wrth i’r hinsawdd newid.

Ar y baneri, mae New Orleans, Manila a’r Maldives, yn ogystal â threfi ledled y DU, sydd wedi’u heffeithio gan lifogydd diweddar y gaeaf.

BP yn ceisio ‘sicrhau mynediad gwleidyddol’

Mae Greenpeace yn galw ar yr Amgueddfa Brydeinig i ddod â’i chytundeb â BP i ben, mewn cyfres o brotestiadau yn erbyn cefnogaeth y mae’r cwmni olew yn rhoi i’r celfyddydau.

“Mae BP yn noddi’r Amgueddfa Brydeinig i wella ei frand, rhoi sglein ar ei enw a sicrhau mynediad gwleidyddol,” meddai Elena Polisano.

“Mae (y cwmni) am barhau i gloddio am danwydd ffosil ymhell i mewn i’r ganrif hon.”

Dywedodd fod dinasoedd sy’n boddi yn dal i fod yn broblem heddiw, gyda phosibilrwydd y bydd gwledydd cyfan fel y Maldives yn diflannu dan ddŵr.

“Mae olew yn gwenwyno ein haer, yn cynhesu ein byd ac yn llygru ein hafonydd a’n moroedd. Olew yw’r tybaco newydd. Mae’r cytundeb hwn yn gorfod dod i ben,” ychwanegodd.

Mae’r Amgueddfa Brydeinig bellach wedi  ail-agor.