Mae dau fachgen 12 oed wedi’u harestio wedi i ddyn gael ei drywanu a’i guro gyda bat pêl-fas.

Fe ymosodwyd ar y dioddefwr gan giang o tua pump neu chwech o fechgyn ifanc yn Cheltenham ddiwedd pnawn Gwener. Yn ol Heddlu Sir Gaerloyw, roedd y dyn a’r bechgyn yn nabod ei gilydd.

Yn dilyn y digwyddiad, fe gludwyd y dyn i’r ysbyty mewn cyflwr difrifol, ac fe dderbyniodd driniaeth at ei anafiadau i’w ysgwydd a’i gesail.

Mae’r bechgyn wedi’u haretio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol, ac mae’r heddlu’n apelio am dystion i’r ymosodiad.