Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Stephen Crabb Llun: PA
Mae’r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Stephen Crabb, wedi amddiffyn bwriad y Llywodraeth i gyflwyno Credyd Cynhwysol y mis hwn ymysg honiadau o “ddiffygion difrifol.”

Mae adroddiad gan y sefydliad sy’n dadansoddi safonau byw, y Resolution Foundation, yn dangos bod diffygion yn y diwygiad, a bod angen mynd i’r afael â’r rheiny cyn cyflwyno’r budd-dal newydd ar draws y Deyrnas Unedig. Ond wfftio’r feirniadaeth hynny wnaeth Stephen Crabb.

Fe fydd Credyd Cynhwysol yn cymryd lle Lwfansau Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Lwfansau Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm, credydau treth plant, credydau treth gwaith a budd-dal tai.

Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd y credydau ar gael ymhob ganolfan waith, a bod 45,000 o bobl wedi gwneud cais amdanyn nhw yn barod.

‘Cadarnhaol’

Mae adroddiad y Resolution Foundation hefyd yn honni bod Credyd Cynhwysol wedi symud yn rhy bell o’i bwrpas gwreiddiol oherwydd y newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn sgil cynlluniau i wneud arbedion yn y gyllideb les.

Roedd Iain Duncan Smith wedi rhoi’r gorau i fod yn Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau yn rhannol oherwydd bod bwriadau’r Credyd Cynhwysol yn cael eu herydu.

Er hyn, dywedodd Stephen Crabb fod diwygiadau sy’n cynnwys cael gwared â’r rheol sy’n cyfyngu pobl ar fudd-daliadau i weithio 16 awr yr wythnos yn dod â “chanlyniadau cadarnhaol.”

“O dan yr hen system, roeddech chi’n cael eich rhoi ar fudd-daliadau ac roeddech chi’n cael taliadau ariannol bob wythnos.

“Ein gweledigaeth ni ar gyfer y system les yw ein bod am weld pobl yn symud tuag at yr ochr arall a bod yn annibynnol yn economaidd,” meddai Stephen Crabb wrth raglen Today ar BBC Radio 4.

Ychwanegodd ei fod yn parhau i drafod â’r Trysorlys sut mae’n bwriadu gweithredu’r toriad o £12 biliwn i’r bil lles.

‘Potensial’

 

Dywedodd David Finch, arbenigwr economaidd a fu’n rhan o’r adroddiad, mai dyma’r adeg iawn i’r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau “ystyried y cynnydd hyd yn hyn” wrth i’r budd-dal newydd gael ei gyflwyno ar draws y DU.

“Mae’n ddiwygiad gyda llawer o botensial, ond mae wedi gwyro i ffwrdd yn ddiweddar, yn enwedig yn dilyn cyfres o doriadau i gymorth teuluoedd sy’n gweithio.”

Dywedodd y dylai’r Ysgrifennydd sicrhau fod y Credyd Cynhwysol yn “gwneud mwy i helpu’r rheiny mewn gwaith i wella, a chael gwared â phryderon sydd wedi codi yn ystod cyfnodau peilot blaenorol.”

Ychwanegodd y dylai Stephen Crabb gymryd cyfrifoldeb am y prosiect yn hytrach na’r Trysorlys.