Mae cwmni olew BP wedi cyhoeddi colledion o £402 miliwn yn ystod tri mis cynta’r flwyddyn yn wyneb gostyngiad ym mhrisiau olew crai.

Daw’r cyhoeddiad bythefnos ar ôl i 60% o gyfranddalwyr BP wrthod pecyn cyflog o £13.8miliwn i’r prif weithredwr Bob Dudley.

Fe gyhoeddodd y cwmni golledion o £402 miliwn o’i gymharu ag elw o £1.8 miliwn flwyddyn yn gynharach.

Serch hynny, mae prisiau olew crai wedi cynyddu rhywfaint yn ystod yr wythnos diwethaf ac mae BP yn dechrau gweld ffrwyth ei gynlluniau i dorri costau’n sylweddol.