William Hague
Dylai pleidleiswyr ddim disgwyl i’w gwleidyddion fod yn “berffaith”, yn ôl cyn-arweinydd y blaid Geidwadol, William Hague, ar ôl i bapurau Panama ollwng y gath o’r cwd.

Yn dilyn penderfyniad y Prif Weinidog, David Cameron i gyhoeddi ei fanylion treth, y Canghellor George Osborne, yw’r diweddaraf i ddod dan y chwyddwyr cyhoeddus am ei fuddiannau ariannol.

Mae arweinydd y blaid Lafur, Jeremy Corbyn, a Maer Llundain, Boris Johnson, hefyd wedi cyhoeddi eu manylion treth, gyda sawl gwleidydd arall yn penderfynu gwneud.

Dywedodd canghellor yr wrthblaid, John McDonnell, fod manylion treth y Ceidwadwyr “mor dryloyw â dŵr golchi llestri” a’u bod yn gadael “mwy o gwestiynau yn hytrach nag atebion.”

Rhybuddio dros ‘fwy o dryloywder’

Ond fe rybuddiodd yr Arglwydd Hague dros gael “mwy o dryloywder” ar faterion fel iechyd a buddiannau ariannol gwleidyddion.

“Os byddai’r Senedd yn llawn pobol a oedd â’r buddiannau ariannol personol mwyaf syml, gyda phopeth yn dod o’r sector cyhoeddus, heb gwestiynau ar berchnogaeth fusnes… yna byddai gennych Senedd sydd ddim yn ddimensiynol,” meddai wrth raglen Today ar BBC Radio 4.

“Dydy amgylchiadau personol ddim bob amser yn dangos gallu rhywun fel prif weinidog, canghellor nag unrhyw beth arall,” meddai.

“Mae’n rhaid i ni ystyried hynny a pheidio â disgwyl i bawb fod yn berffaith neu i bawb fod yn normal.”