Cyfweliad cyntaf ers ei ymddiswyddiad
Mae Iain Duncan Smith wedi lladd ar bolisi llymder Llywodraeth Prydain yn ei gyfweliad cyntaf ers iddo ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau San Steffan.

Ar raglen Andrew Marr y BBC, fe gyhuddodd y Prif Weinidog David Cameron a’r Canghellor George Osborne o geisio “cydbwyso’r llyfrau” ar draul y bobol gyffredin.

Awgrymodd fod y Cabinet yn targedu pobol sy’n derbyn budd-daliadau “am nad ydyn nhw’n pleidleisio drosom ni”.

Mae ymddiswyddiad Iain Duncan Smith yn bygwth creu rhwyg o fewn y Blaid Geidwadol.

‘Ynysig’

Ond mynnodd nad oedd ei benderfyniad yn un “personol”, ac nad oedd yn “ymosodiad” ar Cameron, ac nad oedd yn ymwneud â’i farn am refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Ond fe ddywedodd ei fod yn teimlo’n “ynysig” o fewn y Cabinet ac nad oedd yn teimlo bod modd iddo barhau yn ei swydd.

Dywedodd ei fod e wedi gwneud y penderfyniad ar ôl darganfod bod y Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP), sef budd-dal i bobol ag anableddau, yn cael ei dorri fel rhan o Gyllideb George Osborne.

“Mae’n ffordd ryfedd o geisio gosod polisi yn erbyn agenda’r cyfryngau lle rydych chi’n dechrau dydd Gwener drwy ddweud yn glir wrth bawb fod rhaid i chi fynd allan a’i amddiffyn, ond yna erbyn nos Wener, yn dweud eich bod yn symud oddi wrtho ac yn hwyrach fyth nos Wener yn dweud rywsut ein bod ni wedi’i gicio ymaith.”

Dywedodd mai pobol o oedran gwaith sy’n derbyn budd-dal fydd yn dioddef waethaf yn y pen draw.

Ceidwadwyr wedi colli hygrededd

Mae’r Blaid Lafur wedi achub ar y cyfle i feirniadu Llywodraeth Prydain yn sgil ymddiswyddiad Iain Duncan Smith.

Dywedodd llefarydd gwaith a phensiynau’r blaid, Owen Smith: “Mae’r Blaid Geidwadol yn rhwygo’i hun yn ddarnau tros Gyllideb annheg.

“Mae honiad David Cameron a George Osborne ein ‘bod ni ynddi gyda’n gilydd’ bellach yn yfflon.

“Ni fydd unrhyw un yn credu bod Iain Duncan Smith wedi newid ei feddwl yn gyflym. Wedi’r cyfan, dyma’r dyn a gyflwynodd y dreth llofftydd.”

Ychwanegodd fod ei ymddiswyddiad yn “symptom o broblem ehangach yn y Trysorlys”.

Galwodd Owen Smith ar i George Osborne ymddiswyddo.