Gorsaf bŵer Didcot
Fe fydd cyfarpar arbenigol sylweddol yn cael ei ddefnyddio i ddod o hyd i gyrff tri o weithwyr fu ar goll ers i orsaf bŵer Didcot ddymchwel ar Chwefror 23.

Mae cwmni RWE sy’n berchen y safle wedi cyflwyno cynllun gweithredu i’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch a Heddlu Thames Valley i fwrw ymlaen gyda’r chwilio.

Ymhlith y rhai sydd ar goll mae Chris Huxtable o Abertawe.

Byddan nhw hefyd yn chwilio am Ken Cresswell, 57, a John Shaw, 61.

Cafodd angladd pedwerydd gweithiwr, Mick Collings, 53, ei gynnal ddydd Mawrth.

Mewn datganiad, dywedodd y Gweithgor Iechyd a Diogelwch: “O heddiw, fe fydd cyfarpar mawr a phobol yn cyrraedd y safle i ddechrau gwaith fel bod modd ail-ddechrau chwilio dros y penwythnos, neu’n gynt os oes modd.

“Fe fydd cynnydd y cynllun dros y dyddiau nesaf yn cael ei fonitro’n fanwl gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch a Heddlu Thames Valley.

“Ein blaenoriaeth o hyd yw dod o hyd i’r dynion sydd ar goll fel y gellir eu dychwelyd i’w teuluoedd ac er mwyn deall yr hyn oedd wedi achosi’r digwyddiad hwn.

“Mae swyddogion arbenigol o Heddlu Thames Valley yn parhau i gefnogi’r teuluoedd ac maen nhw’n rhoi diweddariadau cyson iddyn nhw o ran cynnydd y gwaith hwn.”