Mae pump a ddynion ac un wraig wedi cael eu cyhuddo o 53 o droseddau rhyw yn erbyn plant yn Sheffield.

Mae Heddlu De Swydd Efrog wedi cadarnhau fod y cyhuddiadau’n ymwneud ag wyth o gwynion gan ferched, a bod y troseddau honedig wedi digwydd rhwng 2005 a 2012.

Mae Christopher Whiteley, 22, wedi’r gyhuddo o 12 achos o dreisio, dau achos o ymosod yn rhywiol, dau achos o gynllwynio i dreisio neu drefnu i buteinio plant, ac un achos o ladrata.

Mae Amanda Spencer, 24, wedi’i chyhuddo o wyth achos o fod yn rhan o hwyluso trais, wyth achos o drefnu neu alluogi puteinio plant, a phedwar achos o annog puteinio plant.

Matthew Whiteley, 23, ydi’r trydydd sydd wedi’i gyhuddo o ddau achos o weithgaredd rhyw gyda phlentyn, dau achos o gynllwynio i dreisio, cynllwynio i drefnu neu alluogi puteinio plant, ac un achos arall o gynllwynio i achosio neu annog puteinio plant.

Mae Shane Whiteley, 29, wedi’i gyhuddo o ddau achos o gynllwynio i dreisio, cynllwynio i drefnu neu alluogi puteinio plant, cynllwynio i annog puteinio plant, ac o geisio achosi neu annog puteinio plant.

Mae Andre Francis-Edge, 24, wedi’i gyhuddo o gynllwynio i dreisio a chynllwynio i drefnu neu alluogi puteinio plant; ac mae Taleb Bapir, 38, wedi’i gyhuddo o dreisio.

Fe fydd pob un ohonyn nhw’n ymddangos gerbron Llys Ynadon Sheffield ar Fawrth 21.