Mae’r actor Frank Finlay wedi marw yn 89 oed.

Roedd yn adnabyddus fel cymeriad Porthos yn y ffilm ‘The Three Musketeers’ ac fe ymddangosodd yn y gyfres deledu ‘Bouquet of Barbed Wire’.

Ymddangosodd hefyd fel y prif gymeriad yn ‘Casanova’ gan Dennis Potter, ond fe ddaeth ei awr fawr wrth iddo gefnogi Laurence Olivier yn ‘Othello’ yn 1965, a chael ei enwebu am Oscar.

Enillodd wobrau BAFTA am chwarae cymeriad Sancho Panza yn ‘The Adventures of Don Quixote’ a Voltaire yn ‘Candide’.

Mae’n gadael tri o blant, ac mae ei ŵyr Josh Coombes yn ddrymiwr gyda’r band ‘Tigress’.