Mae penaethiaid elusennau wedi cael rhybudd mai dyma’r cyfle olaf iddyn nhw roi trefn ar arferion “cywilyddus” o godi arian.

Mewn asesiad damniol o’r tactegau gafodd eu defnyddio gan rai o’r elusennau mwyaf blaenllaw i godi arian, dywedodd Aelodau Seneddol bod y mater wedi niweidio enw da elusennau.

Yn ôl y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol (PACAC) fe fydd yn rhaid i ymddiriedolwyr gymryd rheolaeth o’r arferion sy’n cael eu defnyddio gan eu sefydliad neu fe allai deddfau gael eu cyflwyno i’w rheoleiddio.