Mae naw o lanciau wedi cael eu harestio yn dilyn achos o drywanu yn Swindon.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r dref am 7.30 nos Sadwrn.

Cafodd dyn 18 oed ei gludo i’r ysbyty ym Mryste gydag anafiadau i’w gefn ac mae e mewn cyflwr difrifol o hyd.

Mae’r holl lanciau a gafodd eu harestio rhwng 13 a 18 oed ac maen nhw’n cael eu holi yn y ddalfa wrth i’r heddlu gynnal ymchwiliad.