Simon Danczuk
Mae’r Aelod Seneddol Llafur Simon Danczuk wedi dweud bod alcohol ar fai am gyfres o negeseuon rywiol a anfonodd at ferch 17 oed.

Dywedodd Aelod Seneddol Rochdale ei fod yn teimlo’n “ofnadwy” am anfon y negeseuon at Sophena Houlihan.

Mae ymchwiliad ar y gweill, ac mae Danczuk wedi ymddiheuro am ei ymddygiad.

Yn dilyn yr helynt, mae Danczuk wedi bygwth dwyn achos yn erbyn ei wraig gyntaf, Sonia Rissington wedi iddi ddweud ei fod yn “ysglyfaeth rhywiol”, gan ddatgelu manylion am ei frwydr yn erbyn alcohol a chyffuriau.

Cafodd y negeseuon gan Danczuk eu hanfon at Sophena Houlihan wedi i’w briodas â’i ail wraig, Karen ddod i ben.

Dywedodd Danczuk wrth bapur newydd y Sun ei fod yn teimlo’n “unig” a’i fod yn “feddw” wrth anfon y negeseuon tra roedd e ar ei wyliau yn Sbaen.

“Mae gen i broblem yfed,” meddai, “a dyna’r prif reswm y gwnes i anfon y negeseuon.

“Rwy wedi gweld seiciatrydd ynghylch hyn ac mae e wedi dweud wrtha i am beidio yfed am chwe mis.

“Rwy’n teimlo’n ofnadwy am yr hyn sydd wedi digwydd.”

Bu’r ddau yn anfon negeseuon at ei gilydd am fis cyn iddyn nhw droi’n rhywiol eu naws.