Mae ditectifs sy’n ymchwilio i achos o herwgipio ar stad dai yn Lloegr, wedi rhyddhau lluniau teledu cylch cyfyng o’r dynion y maen nhw’n awyddus i siarad efo nhw.

Fe gafodd dau fachgen, 6 a 10 mlwydd oed, eu gorchymyn i fynd i mewn i fan wen, ac fe gawson nhw eu gyrru o gwmpas am rai munudau, ar ol cael eu herwgipio am 7yb ddoe (Rhagfyr 31).

Fe gafodd y bechgyn eu rhyddhau o’r fan yn y diwedd, a’u dychwelyd i’r cyfeiriad ar stad Britwell yn nhre’ Slough.

Yn y lluniau sydd wedi’u rhyddhau gan dditectifs heddiw, mae dau o bobol i’w gweld -a’r gobaith ydi y byddai’r rhain yn gallu bod o gymorth i’r heddlu gyda’r ymchwiliad.

Mae Heddlu Thames Valley hefyd yn dweud fod y bechgyn a gafodd eu cymryd yn groes i’w hewyllys, bellach yn derbyn cefnogaeth gan asiantaethau proffesiynol.