Mae dyn 24 oed wedi’i gyhuddo o nifer o droseddau, wedi i gar fynd ar ei ben i mewn i grwp o gerddwyr ar Wyl San Steffan. Lladdwyd tri o bobol, ac mae dyn arall yn parhau i ymladd am ei fywyd yn yr ysbyty.

Roedd y pedwar o bobol yn cerdded ar hyd stryd yn Askern, Doncaster, pan gawson nhw eu taro i lawr gan gar Volvo S60 lliw glas.

Mae heddlu De Swydd Efrog wedi cadarnhau fod dwy wraig, y ddwy ohonyn nhw’n 54 mlwydd oed, a dyn 48 oed wedi marw o ganlyniad i’w hanafiadau; tra bod dyn 57 ed yn derbyn triniaeth ysbyty.

Mae dyn 24 oedo Askern, Ricky Joe Hepworth, wedi’i gyhuddo o dri achos o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus; tri achos o gymryd cerbyd yn anghyfreithlon; tri achos hefyd o achosi marwolaeth tra’n gyrru heb yswiriant a heb drwydded; achosi niwed trwy yrru’n beryglus; ynghyd a methu stopio yn dilyn damwain.

Mae Mr Hepworth yn cael ei gadw yn y ddalfa nes y bydd wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon Doncaster.