Andy Murray
Andy Murray sydd wedi ennill gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC, 2015.

Fe ddywedodd y pencampwr tennis 28 oed, a chwaraeodd ran bwysig yn llwyddiant tîm Gwledydd Prydain wrth ennill Cwpan Davis am y tro cyntaf ers 79 mlynedd, nad oedd wedi disgwyl y wobr o gwbl.

Dyma’r eildro iddo ennill y teitl, ond roedd yn disgwyl i’r paffiwr pwysau trwm, Tyson Fury, fynd â hi’r tro hwn.

Y chwaraewr rygbi cynghrair, Kevin Sinfield ddaeth yn ail gyda’r pencampwr byd heptathletau Jessica Ennis-Hill yn drydydd.

“Dw i’n caru cystadlu dros fy ngwlad, ac mae fy nghanlyniadau pan dw i’n cystadlu dros fy ngwlad yn llawer gwell na phan dw i’n cystadlu wrth fy hun,” meddai Andy Murray wedi’r gwobrau ym Melffast.

Fe bwysleisiodd Andy Murray nad oedd wedi disgwyl y wobr. Roedd yn meddwl y byddai Tyson Fury wedi mynd â hi er gwaetha’r dadleuon dros ei gynnwys ar y rhestr fer. Fe wnaeth rhai ymgyrchwyr ymgynnull tu allan i leoliad y gwobrau neithiwr i wrthwynebu ei sylwadau sarhaus yn erbyn cyfunrywioldeb.

Fe ddywedodd Andy Murray: “Nid pawb, yn amlwg, sy’n cytuno â’r hyn mae’n dweud, ond dw i’n cytuno ac yn credu fod ganddo’r hawl i’w ddweud. Dyna ryddid mynegiant ac mae gan bobl yr hawl i anghytuno â’r hyn mae’n ddweud hefyd.”

Gwobrau eraill

Tîm Cwpan Davis Prydain Fawr enillodd wobr Tîm y Flwyddyn am gipio’r cwpan am y tro cyntaf mewn 79 mlynedd.

Derbyniodd y joci AP McCoy wobr am gyrhaeddiad oes wedi iddo ymddeol ym mis Ebrill ar ôl gyrfa o 20 mlynedd.

Mabolgampwraig 16 oed o Nottingham, Ellie Downie, enillodd Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn yr Ifanc, wedi iddi greu hanes ac ennill medal unigol ym mhencampwriaethau Ewrop.

Fe gafwyd cymeradwyaeth i Bailey Matthews, 8 oed, a lwyddodd i gwblhau triathlon yng ngogledd Swydd Gaerefrog ym mis Gorffennaf er ei fod yn dioddef o barlys ymenyddol.

Cafodd hyfforddwr pêl-droed gogledd Iwerddon, Michael O’Neill, ei gydnabod fel hyfforddwr y flwyddyn wedi i’w dîm gyrraedd rownd derfynol pencampwriaeth Euro 2016.

Enwyd y seren rygbi o Seland Newydd, Dan Carter, fel Personoliaeth Chwaraeon Tramor y Flwyddyn.

A derbyniodd y gŵr o orllewin Belffast, Damien Lindsay, wobr am ysbrydoli’r ifanc wedi iddo ffurfio clwb pêl-droed St James Swifts i atal pobl ifanc yn ei ardal rhag ymddwyn yn wrthgymdeithasol.