Kellingley, pwll glo dwfn olaf Prydain, o'r M62 (llun: http://creativecommons.org/licenses/by-sa/3.0)
Bydd glowyr a’u teuluoedd yn cynnal gorymdaith a rali yn Swydd Efrog heddiw ar ôl i bwll dwfn olaf Prydain gau yno ddoe.

Aeth 450 o lowyr i lawr pwll Kellingley yn Swydd Efrog am y tro olaf ddoe, pwll a gyflogai dros 2,000 pan oedd ar ei anterth.

Bydd gorymdaith y glowyr yn cychwyn ym mhentref Knottingley amser cinio gan orffen mewn rali yng nghlwb lles glowyr Kellingley.

Dywedodd Chris Kitchen, ysgrifennydd cyffredinol Undeb Cenedlaethol y Glowyr (NUM) fod ddoe yn ddiwrnod trist i Brydain ac i’r diwydiant.

Ac yn ôl ysgrifennydd cangen yr NUM yn Kellingley, doedd dim angen cau’r pwll.

“Dw i’n siomedig iawn,” meddai. “Dw i’n teimlo’n flin, ac yn bwysicach na hynny, dw i wedi gweld fy nghydweithwyr yn cwblhau eu shifft olaf a gweld y dicter a’r rhwystredigaeth ar eu hwynebau. Maen nhw’n teimlo’n chwerw a siomedig iawn.”