Llys y Goron Caerdydd (Llun Golwg360)
Mae pwyllgor o Aelodau Seneddol wedi galw am ddiddymu’r system o godi tâl ar bobol sy’n cael eu profi’n euog mewn llys barn ar ôl pledio fel arall.

Yn ôl Pwyllgor Cyfiawnder Tŷ’r Cyffredin mae’r drefn yn ystumio cyfiawnder ac yn arwain at gostau sydd â dim i’w wneud â maint y drosedd.

Ymhlith yr “amheuon difrifol” am effaith y cynllun, mae’r ASau’n dweud ei fod yn gwthio pobol ddieuog i bledio’n euog er mwyn osgoi’r taliadau , sydd hyd at £1,000 yn fwy i bobol sy’n ymladd eu hachos.

Saith mis

Dim ond saith mis yn ôl y cafodd y system ei chyflwyno gan Chris Grayling, y Gweinidog Cyfiawnder ar y pryd a’r syniad oedd fod troseddwyr yn talu rhan o gost y system gyfiawnder.

Ond fe gafodd y cynllun ei feirniadu’n hallt, gyda dros 50 o ynadon yn ymddiswyddo ac olynydd Chris Grayling, Michael Gove, yn galw am adolygiad.

Fe gadarnhaodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder eu bod nhw’n edrych eto ar y drefn.

£328 i ddynes ar ôl dwyn Mars Bars

Yn ôl tystiolaeth yr adroddiad, roedd diffynyddion a oedd wedi bwriadu pledio’n ddi-euog wedi newid eu ple er mwyn talu’r tâl isaf o £150, yn hytrach na’r £1,000 y gallan nhw ei wynebu mewn llys ynadon neu £1,200 yn Llys y Goron.

Ond roedd y Pwyllgor Cyfiawnder hefyd yn poeni nad oedd perthynas rhwng maint y costau a natur y drosedd.

Mae’r adroddiad yn nodi un achos, pan oedd dynes wedi cyfaddef dwyn pedwar pecyn o Mars Bars gwerth 75c, gan ddweud nad oedd hi wedi “bwyta ers dyddiau” ar ôl i’w budd-daliadau gael eu hatal.

Roedd yn rhaid iddi dalu tâl o £150 i ddefnyddio’r llys, ar ben dirwy o £73, gwerth £85 o gostau, tâl o £20 i’r dioddefwr ac ad-daliad o 75c – a hynny ar ôl pledio’n euog.

Ymaeb y Weinyddiaeth

“Fel mae’r Ysgrifennydd Cyfiawnder wedi’i ddweud, rydym yn nodi’r pryderon sydd wedi cael eu mynegi ac rydym yn adolygu’r cynllun taliadau,” meddai llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Ychwanegodd hefyd bod y taliadau ond yn cael eu gosod os yw’r person yn ei gael yn euog o drosedd, ac gall dalu’r swm fesul dipyn os nad yw troseddwyr yn gallu talu’n llawn yn syth.