George Osborne
Mae’r Trysorlys wedi gwerthu gwerth £13 biliwn o forgeisi fu’n berchen arnyn nhw ers i fanc Northern Rock fynd i drafferthion adeg argyfwng ariannol yn 2008.

Bydd yr elw yn cael ei ddefnyddio i dalu ychydig o’r ddyled genedlaethol, sydd bellach yn swm anferthol o £1.5 triliwn – bydd yr arian ddaw o werthu’r morgeisi yn talu am ryw 0.86% o’r ddyled.

Gwerthwyd y morgeisi am £280 miliwn yn fwy nag oedd y cwmnïau benthyciadau wedi’i amcangyfrif, a gallai hyn fod yn hwb i broffil y Canghellor George Osborne, a fydd yn rhoi ei araith Datganiad Ariannol yr Hydref yn ddiweddarach y mis hwn.

“Mae heddiw yn garreg filltir arall yn hanes clirio’r llanast a gafodd ei adael gan yr argyfwng ariannol, wrth werthu morgeisi Northen Rock,” meddai George Osborne.

“Mae’r broses gystadleuol iawn a’r ffaith bod y morgeisi hyn wedi cael eu gwerthu am bron i £300 miliwn yn fwy na’u gwerth amcangyfrifedig, yn dangos yr hyder sydd gan fuddsoddwyr yn y DU, sydd ond wedi bod yn bosibl oherwydd llwyddiant ein cynllun hirdymor.”