Glenn Picot (Llun: Heddlu Caint)
Mae’r heddlu’n chwilio am ddyn sydd wedi mynd ar goll o’r ysbyty – ac maen nhw’n rhybuddio’r cyhoedd i beidio mynd yn agos ato.

Mae Glenn Picot, 34, ar goll o Ysbyty Maidstone a does neb wedi’i weld ers 1.10 o’r gloch brynhawn ddoe, meddai Heddlu Caint. Bryd hynny, roedd yn mynd i siop Tesco.

Mae wedi’i ddisgrifio fel fyn 5 troedfedd 9 modfedd o daldra, tenau, gyda llygaid brown, gwallt brown byr, a barf hir.

Mae ganddo greithiau ar ei ddwy fraich ac uwch ei ael chwith, ac mae ganddo glustlysau yn ei glust chwith.

Mae’r heddlu’n credu y gallai fod yn anelu am ynys Jersey.