Mae angen corff newydd i reoli’r ffordd mae elusennau’n codi arian yn dilyn beirniadaeth o’r modd maen nhw’n gwneud hynny, yn ôl adolygiad a gomisiynwyd gan y Llywodraeth.

Dywed yr adolygiad trawsbleidiol bod y system bresennol o hunan-reoleiddio wedi methu ac mae’n galw am sefydlu corff newydd a fyddai’n atebol i’r Senedd.

Yn ôl yr adolygiad, mae’r cyhoedd wedi colli ffydd yn y modd mae elusennau’n codi arian yn dilyn marwolaeth Olive Cooke a oedd yn 92 oed.

Roedd hi wedi lladd ei hun yn gynharach eleni a dywedodd ei theulu ei bod wedi derbyn hyd at 267 o lythyron bob mis a galwadau ffôn gan elusennau yn apelio am arian.

Cafodd yr adolygiad ei gadeirio gan Syr Stuart Etherington, prif weithredwr Cyngor Cenedlaethol Sefydliadau Gwirfoddol (NCVO).