Emily Wicking (Llun: Heddlu Cleveland)
Mae’r heddlu’n chwilio am ferch 14 oed sydd wedi diflannu o’i chartre’ er mwyn mynd i gyfarfod dyn y gwnaeth ei gyfarfod ar y we.

Does neb wedi gweld Emily Wicking, 14, o ardal Redcar a Cleveland, ers tua 4yp ddoe.

Mae Heddlu Cleveland yn dweud eu bod yn apelio’n uniongyrchol iddi gysylltu gyda nhw, gyda theulu neu ffrindiau, er mwyn gadael i rywun wybod ei bod yn ddiogel.

Mae disgrifiad ohoni yn dweud fod ganddi wallt brown golau at ei hysgwyddau, corff main ac yn mesur 5 troedfedd 8 modfedd o daldra. Roedd hi’n gwisgo hwdi o liw llwyd a jins glas.

Mae Heddlu Cleveland hefyd yn apelio ar berchnogion busnes megis gwestai, barau a gwely a brecwast, i fod ar eu gwyliadwraeth.