Mae chwaraewr rygbi saith bob ochr Lloegr, Sam Stanley wedi cyhoeddi ei fod yn hoyw.

Stanley yw’r ail chwaraewr rygbi’r undeb – ar ôl Gareth Thomas – i wneud y fath gyhoeddiad.

Mae’r chwaraewr 23 oed wedi chwarae mewn pum twrnament Cyfres y Byd i Loegr ac mae’n aelod o un o’r teuluoedd rygbi enwocaf yn y byd.

Roedd ei ewythr Joe Stanley yn aelod o garfan Seland Newydd ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd yn 1987, tra bod ei frawd Mike yng ngharfan Samoa ar gyfer y gystadleuaeth eleni.

Mae ei gefnder Winston yn chwarae i Harlequins, a’i gefnder arall Benson yn chwarae i Clermont Auvergne.

Dywedodd Sam Stanley wrth bapur newydd y Sunday Times: “Ro’n i’n 10 neu 11 pan sylweddolais i ’mod i’n wahanol i fy ffrindiau.

“Do’n i ddim am dderbyn y peth, ro’n i’n teimlo nad oedd bod yn wahanol yn iawn.

“Roedd gen i gariad ac ro’n i’n meddwl, fel mae rhai pobol yn dweud, mai un cyfnod yn unig oedd hwnnw.”

Daw cyhoeddiad Stanley ar ôl i brop tîm rygbi’r gynghrair Batley Bulldogs, Keegan Hirst yntau gyhoeddi fis diwethaf ei fod yn hoyw.

Cyhoeddodd cyn-gapten Cymru, Gareth Thomas yn 2009 tra ei fod yn chwarae i’r Gleision ei fod yn hoyw.

Ychwanegodd Stanley: “Fe fydd yn broblem tan bod mwy o bobol ac athletwyr yn dod allan, ac wedyn ni fydd yn broblem o gwbl.

“Fe allai gymryd blynyddoedd ond gobeithio y bydd llawer o bobol yn magu dewrder.”