Mae tri o bobol wedi’u harestio wedi i gar yrru i mewn i ardd ty yn Ne Swydd Efrog, gan ladd dau o bobol.
Bu farw dau ddyn, a gadawyd trydydd gydag anafiadau difridol wedi i gar Renault Megane droi drosodd a mynd ar dân ym mhentre’ Branton ger Doncaster.
Mae’r heddlu wedi bod yn chwilio am ddau ddyn arall. Y gred ydi eu bod nhw wedi dianc o’r cerbyd, ac y gallen nhwthau fod wedi’u hanafu’n ddifrifol hefyd.
Mae Heddlu De Swydd Efrog wedi arestio dyn 21 oed a bachgen 15 oed o ardal Doncaster ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus.
Mae dynes 21 oed o ardal Doncaster wedi’i harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.
Yn ardal de Cymru y cafodd y dyn ei arestio.