Mae Grŵp Seneddol trawsbleidiol sy’n edrych ar ddiwygio polisïau cyffuriau, yn dweud bod angen arbrofi gyda “marchnadoedd canabis cyfreithiol” oherwydd bod gwahardd y cyffur ddim wedi gweithio.

Mewn adroddiad, mae’r grŵp sy’n cynnwys Aelodau Seneddol ac aelodau o Dŷ’r Arglwyddi yn dweud bod angen i’r Llywodraeth arbrofi gyda modelau o farchnadoedd ar gyfer y cyffur.

Yn yr adroddiad mae’r grŵp yn dweud hefyd bod y Cenhedloedd Unedig yn annog y math yma o drafodaeth.

“Rwy’n credu y byddai’n wych pe byddai ein llywodraeth yn cyflwyno treial o farchnad reoledig,” meddai’r Farwnes Molly Meacher, sy’n cyd-gadeirio’r grwp yn San Steffan.

“Mae angen canfod y dull mwyaf effeithiol o’i reoli.

“Mae tystiolaeth o Bortiwgal (lle cafodd y cyffur ei wneud yn gyfreithlon yn 2001) yn dangos bod y math yma o agwedd yn gallu gwneud lles, ac mae modd gweld lefelau dibyniaeth yn gostwng.

“Mae’r agwedd bresennol yma’n anwybodus, heb ei selio ar dystiolaeth, a dros yr hanner canrif ddiwethaf, wedi’i brofi i fod yn fethiant,” meddai Molly Meacher wedyn.