Simon Danczuk - gohirio a gwrthryfela
Mae Llafur wedi ymestyn yr amser cau ar gyfer cofrestru yn ras yr arweinyddiaeth yn dilyn problem “dechnegol” ar ei gwefan.

Fe fydd y blaid derbyn ceisiadau hyd at 3pm heddiw yn dilyn  methiant cefnogwyr i gofrestru cyn 12pm.

Ar ôl ymddiheuro am y “mater technegol”, fe drydarodd y blaid: “Os ydych chi’n ceisio cofrestru fel cefnogwr ac yn ei chael hi’n anodd, mae’r amser cau wedi ei ymestyn i 3pm os ydych eisiau pleidleisio”.

Galwad arall am ohirio

Bellach, mae AS Llafur arall wedi galw am ohirio’r bleidlais oherwydd y peryg fod pobol o bleidiau a charfanau eraill yn cofrestru i bleidleisio.

Ac fe ddywedodd Simon Danczuk y byddai’n dechrau ymgyrchu ar unwaith i gael gwared ar y ffefryn, Jeremy Corbyn, pe bai’n dod yn arweinydd.

Mewn cyfweliad ar orsaf radio LBC yn Llundain, roedd yn mynnu na fyddai’r ymgeisydd asgell chwith yn para mwy na blwyddyn pe bai’n ennill.