Dylai bwydydd a diodydd melys gynnwys labeli fel y rhai sydd ar flychau sigarets yn ôl yr Athro Hunt (llun: PA)
Dylai fod lluniau erchyll o ddannedd yn pydru ar labeli bwydydd a diodydd melys, yn ôl un o ddeintyddion mwyaf blaenllaw Prydain.

Rhybuddia’r Athro Nigel Hunt, deon cyfadran ddeintyddol Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, fod argyfwng yn y nifer o blant sy’n gorfod cael eu dannedd wedi eu tynnu.

“Rydym mewn argyfwng o safbwynt y nifer o blant sy’n gorfod mynd i ysbytai deintyddol am anaestheteg llawn i dynnu dannedd,” meddai.

“Mae bron i 26,000 o achosion o anaestheteg llawn yn cael ei roi i blant rhwng pump a naw oed i dynnu dannedd.

“Mae llawer o ganolfannau’n methu dygymod â’r galw, a phlant yn gorfod aros am chwe mis a mwy.”

Mae o’r farn y dylid ymdrin â bwydydd a diodydd melys yn yr un modd a wneir gyda chynhyrchion baco.

“Fe ddylen ni fod yn dweud y bydd lefelau uchel o siwgr yn arwain nid yn unig at bydru dannedd ond hefyd yn effeithio ar iechyd yn gyffredinol,” meddai.

“Mae lluniau bob amser yn creu mwy o argraff.”