Mae degau o filoedd o bobol wedi ymgynnull yng Nghôr y Cewri i ddathlu Hirddydd Haf.

Dywedodd yr heddlu fod 23,000 o bobol ar y safle yn Swydd Wiltshire y bore ma, a bod eraill wedi mynd i safle Avebury gerllaw.

Roedd modd gweld yr haul am y tro cyntaf am 4.52yb.

Dywedodd yr heddlu bod llai o bobol wedi cael eu harestio eleni nag yn ystod blynyddoedd cynt, a bod y digwyddiad wedi bod yn “llwyddiant mawr”.

Mae lle i gredu bod Côr y Cewri wedi cael ei ddefnyddio fel safle crefyddol 4,000 o flynyddoedd yn ôl, ond bod dathliadau Paganaidd wedi cychwyn yno ddechrau’r ugeinfed ganrif.