Bydd Aelodau Seneddol yn cael codiad cyflog o 10% ar ôl i David Cameron wneud yn glir na fydd yn ceisio atal y corff sy’n rheoleiddio safonau seneddol o weithredu’r codiad.
Bydd cyflog ASau nawr yn codi i £74,000.
Dywedodd llefarydd ar ran Downing Street bod y Prif Weinidog yn dal i wrthwynebu’r cynnydd ond mai penderfyniad y Safonau Seneddol Annibynnol (Ipsa) ydyw yn y pen draw.
Cyhoeddodd Ipsa yn 2013 ei fod yn awgrymu codiad cyflog i ASau i fynd i’r afael â chwynion fod cyflogau Aelodau Seneddol wedi gostwng y tu ôl i weddill y sector cyhoeddus.
Ond cafodd y codiad ei feirniadu gan David Cameron fel un “cwbl annerbyniol” tra roedd gweddill y sector cyhoeddus yn cael ei gyfyngu i godiad cyflog o 1%.
Fis diwethaf, galwodd llefarydd y Prif Weinidog ar y corff “i ddod i ganlyniad gwahanol”.
Ond dywedodd IPSA heddiw nad oedd unrhyw reswm i newid y cynnig ar gyfer cynnydd o 10% o’r lefel bresennol o £67,000.