Mae’r gwaith o chwilio am ddeifiwr a aeth ar goll ym Môr Urdd (English Channel) wedi dod i ben.

Mae llefarydd ar ran gwasanaeth Gwylwyr y Glannau wedi cadarnhau fod y deifiwr wedi methu â dychwelyd i wyneb y dwr ar ôl neidio oddi ar gwch o’r enw Emma J off Swanage yn Swydd Dorset, toc cyn 5yp ddoe.

Fe fu badau achub, hofrenyddion a deifwyr eraill yn rhan o’r chwilio, cyn i’r gwaith ddod i ben yn hwyr neithiwr.

Fe benderfynwyd heddiw i beidio ag ail-gychwyn y gwaith chwilio, ac mae teulu’r deifiwr wedi cael ei hysbysu o hynny.