Everest
Mae’r Swyddfa Dramor yn ymchwilio i adroddiadau bod Prydeiniwr wedi marw mewn gwersyll – base camp – ar fynydd Everest.
Daw’r adroddiadau yn fuan wedi’r cadarnhad y bu farw Prydeiniwr arall yn dilyn y daeargryn yn Nepal.
Roedd y daeargryn wedi achosi eirlithriadau ar Everest.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor Philip Hammond fod ei swyddfa’n ymchwilio i’r adroddiadau, ac nad oes modd cadarnhau’r adroddiadau ar hyn o bryd.
Mae Hammond wedi trydar gan ddweud bod awyren sy’n cludo 120 o bobol wedi gadael y DU gydag adnoddau er mwyn cynorthwyo pobol yn Kathmandu.
Mae disgwyl i’r awyren lanio yn Kathmandu yn gynnar yn y bore.
Yn y cyfamser, mae £19 miliwn wedi cael ei roi i’r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau fel rhan o apêl a gafodd ei sefydlu yn sgil y daeargryn yn Nepal.
Mae £14 miliwn wedi cael ei roi gan y cyhoedd a £5 miliwn gan Lywodraeth Prydain.
Susannah Ross
Yn y cyfamser, mae disgwyl i ddynes 20 oed o Gaerfaddon gael ei hachub bore fory wedi iddi fynd yn sownd tra’n cerdded yn nyffryn Langtang.
Dywedodd ei chwaer Nina fod y teulu wedi derbyn neges ganddi yn dweud ei bod hi’n aros i gael ei hachub, ac maen nhw’n galw ar yr awdurdodau i weithredu.
Dywedodd Nina Ross ei bod hi’n “rhwystredig” wrth gyfathrebu â’r awdurdodau, sy’n cynnwys Llysgenhadaeth Prydain.
“Rydyn ni’n gobeithio cael drwodd i wahanol lysgenhadon i gyflymu’r cyfan gan fod creigiau’n dal i gwympo sy’n lladd pobol yn yr ardal honno.
“Rhaid i ni roi pwysau ar y llysgenhadon, ar unrhyw elusennau, ar unrhyw un, i gael hofrenyddion allan yno.”
Dywedodd fod nifer o bobol wedi cael eu hachub eisoes gan fod llysgenhadon gwledydd eraill wedi talu am hofrenyddion.
“Dydy llysgenhadaeth Prydain ddim wedi talu am hofrenyddion i gael Susannah allan ac mae hynny’n golygu ei bod hi wedi cael ei gadael yno gyda rhai pobol eraill.”
Ychwanegodd fod y teulu wedi colli ffydd yn yr awdurdodau wedi iddyn nhw benderfynu gohirio’u hymdrechion i achub ei chwaer tan yfory.
Mae Prif Weinidog Nepal, Sushil Koirala wedi dweud y gallai nifer y bobol sydd wedi marw ddyblu yn y pen draw.
Mae modd cyfrannu at yr apêl drwy ffonio 0370 60 60 900.
Dylai unrhyw un sy’n gofidio am eu hanwyliaid ffonio’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad ar 0207 008 0000.