Mae protestwyr asgell-dde wedi mynd ben-ben gyda Mwslimiaid oedd ar eu ffordd i weddio brynhawn heddiw.

Fe fu tua 100 o aelodau o’r mudiadau Britain First a’r English Defence League yn gweiddi ac yn siantio y tu allan i Fosg Canolog Llundain a Chanolfan Ddiwylliannol Islam, wrth i gannoedd o ddynion, merched a phlant fynd i mewn i weddio.

Roedd rhai protestwyr yn siantio negeseuon gwrth-Islamaidd, tra’r oedd eraill yn chwifio baneri a phlacardiau.

Roedd tua 100 o blismyn ar ddyletswydd, yn ceisio cadw’r protestwyr oddi wrth fynedfa’r mosg.

Fe fu rhai aelodau o’r EDL yn canu, “It’s our country, we’re taking it back” tra’r oedd y gweddio’n digwydd, tra’r oedd eraill yn gwneud dim ond rhegi.

Roedd y clerigwr radical, Anjem Choudary, ymysg y rheiny oedd yn y mosg yn addoli.