Fe lwyddodd y lladron i ddwyn Kindle, ond dim aral
Mae merch ifanc oedd yn gwarchod dau o blant, wedi erlid dau leidr a geisiodd dorri i mewn i’r tŷ i ddwyn.

Roedd y ferch yn edrych ar ôl y plant yn Hove, East Sussex, tua 11.20yh pan ddaeth o hyd i ddau ddyn yn y cyntedd.

Fe redodd y dynion ymaith, gan ddwyn bag  yn cynnwys peiriant darllen Kindle, ond fe redodd y warchodwraig ar eu holau a cheisio rhwystro un ohonyn nhw rhag dringo dros ffens yr ardd.

Mae Heddlu Sussex yn dweud i’r ferch anafu bys a chleisio ei choes yn ystod y digwyddiad.