profi samplau gwaed am Ebola
Mae gweithwraig iechyd o Brydain, sydd wedi cael ei heintio gydag Ebola tra’n gweithio yn Sierra Leone, yn cael ei chludo yn ôl adref.

Cyhoeddodd y Weinyddiaeth Amddiffyn bod awyren yr Awyrlu wedi cyrraedd Sierra Leone neithiwr ac yn ei chludo yn ol i’r DU ar hyn o bryd.

Dywedodd llefarydd ar ran Iechyd Cyhoeddus Lloegr bod y weithwraig wedi cael ei hasesu gan feddygon i weld a oedd yn ddigon iach i gael ei chludo yn ol i’r DU.

Roedd hi wedi bod yn cael triniaeth mewn canolfan arbennig yn Kerry Town.

Mae hyd at 700 o staff milwrol o Brydain wedi bod yn gweithio yng ngorllewin Affrica i helpu yn ystod yr argyfwng Ebola.

Roedd y nyrsys o Brydain, Pauline Cafferkey a Will Pooley, wedi gwella ar ol cael eu heintio gyda’r firws tra’n trin cleifion yn Sierra Leone y llynedd.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Lloegr bod ymchwiliad ar y gweill i geisio darganfod sut yr oedd y weithwraig wedi cael ei heintio.

Dywed Ysbyty’r Royal Free yn Llundain eu bod yn helpu Iechyd Cyhoeddus Lloegr gyda’u hasesiad.

Mae mwy na 9,960 o bobl wedi marw o Ebola ers i’r argyfwng yng ngorllewin Affrica ddechrau ym mis Mawrth y llynedd, yn ol ffigurau diweddaraf Sefydliad Iechyd y Byd (WHO).