Tocyn parcio
O dan gyfraith newydd, fe fydd gyrwyr yn Lloegr yn cael 10 munud ychwanegol i ddychwelyd i’w ceir cyn cael dirwy am fod tocyn parcio wedi dod i ben.

Fe fydd y newid yn dod i rym yn yr wythnosau nesa’ ac yn cynnwys pobol sydd wedi parcio mewn mannau lle mae’r cyngor yn eu monitro.

Y bwriad yw rhoi stop ar gwynion gan yrwyr sydd wedi bod ychydig funudau yn hwyr yn dychwelyd i’w car, ond wedi cael eu cosbi gyda dirwy ariannol.

Fydd dim hawl gosod dirwy os yw peiriant talu wedi torri chwaith a fydd cynghorau ddim yn gallu gwneud elw o barcio o hyd ymlaen ac fe fydd y gyfraith newydd yn caniatáu i gwmnïau lleol ofyn i’r cyngor adolygu’r cyfyngiadau parcio yn eu hardaloedd.

‘Teimlo fel troseddwyr’

“Am amser hir, mae rheolau parcio wedi gwneud i yrwyr deimlo fel troseddwyr, ac wedi gwneud difrod mawr i fusnesa siopau lleol,” meddai’r Ysgrifennydd Cymunedau Eric Pickles.

“Rydym am ddod a hyn i ben er mwyn gadael i yrrwr fynd ymlaen hefo’u bywyd bob dydd.”