Ed Miliband (llun: PA)
Mae tiriogaethau Prydeinig fel Bermuda a Jersey wedi cael eu rhybuddio y bydd llywodraeth Lafur yn eu rhwystro rhag gweithredu fel noddfeydd i’r rheini sy’n ceisio osgoi talu trethi.

Dywedodd arweinydd Llafur, Ed Miliband, y bydd y noddfeydd hyn yn cael chwe mis i agor eu llyfrau neu gael eu rhoi ar ‘restr ddu’ ryngwladol.

Mae cyfoethogion yn aml yn gallu osgoi trethi trwy greu ‘cwmnïau cragen’ o fewn y noddfeydd hyn i guddio eu cyfoeth oddi wrth yr awdurdodau ym Mhrydain neu wledydd eraill.

Mewn llythyr at arweinwyr y tiriogaethau tramor hyn sydd o dan nawdd y goron, dywed Ed Miliband:

“Ysgrifennaf atoch i’ch rhybuddio na fydd llywodraeth Lafur yn caniatáu i’r sefyllfa hon o gyfrinachedd barhau.

“Yn wahanol i’r Torïaid, bydd Llafur yn gweithredu yn erbyn osgoi trethi, gan eich gorfodi i fod yn agored i graffu rhyngwladol, neu gael eich cosbi.”