Eric Pickles
Mae aelodau o Gabinet Cyngor Rotherham wedi cyhoeddi y byddan nhw’n ymddiswyddo yn sgil adroddiad damniol sy’n datgan bod y cyngor wedi anwybyddu sgandal rhyw yn y dref, lle cafodd cannoedd o blant eu cam-drin.

Fe wnaeth adroddiad Louise Casey hefyd amlygu achosion o fwlio, rhagfarn rhyw ac agwedd anffafriol o fewn y cyngor.

Eiliadau wedi i’r adroddiad gael ei gyhoeddi, fe wnaeth cabinet Cyngor Rotherham ymddiswyddo.

Fe gyhoeddwyd ym mis Awst bod tua 1,400 o blant wedi cael eu treisio a’u hecsbloetio yn rhywiol gan gangiau o ddynion o dras Asiaidd yn Rotherham, De Efrog rhwng 1997 a 2013.

Yn sgil adroddiad Louise Casey, mae’r asiantaeth droseddol NCA wedi dweud y bydd yn ymestyn ei ymchwiliad presennol i Gyngor Rotherham.

Yr adroddiad

Wrth siarad yn San Steffan, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cymunedau, Eric Pickles, y bydd uwch swyddogion o Lywodraeth San Steffan yn cael eu hanfon i’r cyngor er mwyn mynd i’r afael a’r arweinyddiaeth “ddiffygiol” ac y bydd etholiadau buan yn cael eu trefnu o fewn y cyngor, cyn 2016.

Roedd yr adroddiad wedi edrych ar dros 7,000 o ddogfennau ac wedi cyfweld dros 200 o bobol gan gynnwys staff presennol a blaenorol y cyngor, rhai gafodd eu cam-drin a’u rheini.

“Gwelwyd fod methiant i dderbyn, deall a gweithredu mewn achosion o gam-drin plant, wnaeth arwain at ddiffyg cefnogaeth i’r rhai gafodd eu cam-drin a methiant wrth gosbi’r drwgweithredwyr,” meddai Louise Casey.

Beirniadaeth

Fe gafodd Heddlu De Swydd Efrog a’r cyngor eu beirniadu ynglŷn â’r ffordd y gwnaethon nhw ddelio a’r cwynion gan ferched ifanc oedd yn dweud eu bod nhw wedi cael eu cam-drin.
Mewn adroddiad diweddar, dywedodd yr Athro Alexis Jay bod uwch swyddogion yn debygol o fod yn gwybod beth oedd yn mynd ymlaen, ond eu bod nhw wedi methu a gweithredu.