Mae diffyg ymarfer corff ddwywaith yn fwy tebygol o arwain at farwolaeth gynnar na bod yn ordew, yn ôl gwaith ymchwil.

Gall gerdded am 20 munud bob dydd atal marwolaeth cyn amser, yn ôl gwyddonwyr.

Roedden nhw wedi edrych ar effaith gordewdra ac ymarfer corff ar 334,161 o ddynion a merched yn Ewrop dros gyfnod o 12 mlynedd.