Mae dau ddyn wedi’u cyhuddo o lofruddio adeiladwr 27 oed mewn ymosodiad gyda chyllell a bwyell y tu allan i dafarn ar Ddydd Calan.

Bu farw Tanis Bhandari, ac fe gafodd pedwar o bobol eraill eu hanafu’n ddifrifol mewn cwffas yn nhafarn y Kings Arms ym mhentre’ hanesyddol Tamerton Foliot ger Plymouth.

Mae Heddlu Dyfnaint a Chernyw wedi cadarnhau bod Ryan Williams, 21, a Donald Damian Pemberton, 20, ill dau o St Budeaux, Plymouth, wedi’u cyhuddo o lofruddiaeth.

Maen nhw hefyd wedi’u cyhuddo o fod â bwyllell a chyllell yn eu meddiant mewn man cyhoeddus. Fe fydd y ddau’n parhau yn y ddalfa cyn ymddangos gerbron Llys Ynadon Plymouth fory.