Mae disgwyl i hyd at 4 miliwn o bobol o wledydd Prydain fynd dramor ar gyfer y Nadolig eleni, yn ôl ymchwil gan gwmni Abta.

Mae’r ffigwr yn golygu cynnydd bach o’i gymharu â’r llynedd, ac mae’r ymchwil wedi’i gwblhau am y cyfnod rhwng Rhagfyr 19 ac Ionawr 3.

Bydd 16,700 yn teithio o faes awyr Heathrow yfory, gyda hyd at 700,000 yn gadael rhwng Rhagfyr 19 a Dydd Nadolig.

Bydd 800,000 o bobol yn gadael maes awyr Gatwick yn yr un cyfnod, a 430,000 yn gadael maes awyr Stansted.

Bydd oddeutu 380,000 yn teithio o Fanceinion, a 160,000 o Birmingham.

Mae disgwyl i filoedd o bobol groesi i Ffrainc drwy’r twnnel neu ar fferi, gyda hyd at 250,000 yn defnyddio trenau Eurostar.

Mae cyrchfannau’r Prydeinwyr yn cynnwys Ynysoedd Canaria, Tiwnisia, Morocco, Dubai, Mecsico, Ciwba a’r Aifft.

Bydd nifer fawr o Brydeinwyr yn teithio i rai o brif ddinasoedd Ewrop ar gyfer y flwyddyn newydd.

Yn y cyfnod rhwng Rhagfyr 12 ac Ionawr, mae disgwyl i British Airways gludo hyd at 2.7 miliwn o deithwyr o wledydd Prydain, gan gynnwys 267 o deithiau ar Ddydd Nadolig.

Ond fe fydd cryn oedi ar y ffyrdd a’r rheilffyrdd i’r rhai sydd wedi penderfynu peidio mynd dramor.
Bydd gwaith fel rhan o gynllun peirianneg gwerth £200 miliwn ar y rheilffyrdd, ac mae disgwyl i 20 miliwn o geir fod ar y ffyrdd ddydd Gwener.

Er bod y rhan fwyaf o’r gwaith yn cael ei gwblhau ar Ddydd Nadolig a Dydd San Steffan, fe fydd cryn oedi i deithwyr ar y trenau mewn rhannau o Loegr yn ystod yr wythnos rhwng y Nadolig a’r flwyddyn newydd.