Pauk Flynn AS
Mae Paul Flynn, Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd,  yn dweud na ddylai prif weithredwr NATS, Richard Deakin, sy’n gyfrifol am reoli  traffig awyr Prydain derbyn bonws ariannol yn dilyn problemau dydd Gwener.

Bu raid i awyrennau ddisgwyl cyn glanio a chanslwyd nifer o deithiau yn dilyn methiant yng nghyfrifiaduron canolfan traffig awyr cenedlaethol y DU.

Dywedodd Richard Deakin, prif weithredwr NATS, bod y broblem gyda’r meddalwedd yn un anodd i’w ddarganfod oherwydd, roedd wedi ei “gladdu” ymysg miliynau o linellau o god cyfrifiadurol ar safle  Swanwick, Hampshire.

Meddai Paul Flynn: “Er ei fod yn ddigwyddiad prin roedd yr anhrefn yn ofnadwy, ac rwy’n gobeithio bydd yn colli ei fonws.”

Mae Richard Deakin yn ennill mwy na £1 miliwn ar ôl derbyn codiad cyflog o 45% eleni.

Roedd NATS wedi derbyn adroddiad gan yr Awdurdod Hedfan Sifil yn gynharach eleni yn dilyn problemau llynedd.

Dywedodd yr awdurdod yn yr adroddiad bod cynllun NATS ar sut i ddelio a phroblem debyg, “yn brin o fanylder ac eglurder.”

Ymddiheuro

Ymddiheurodd Richard Deakin am y problemau a’i fod yn “sicrhau na fyddai’n digwydd eto.”

Meddai “Aeth y cynlluniau wrth gefn ar waith ac rwy’n credu mai’r neges allweddol yw, bod yr awyr wedi ei gadw’n hollol ddiogel yn ystod y 45 munud pan gafwyd y broblem.”