Traffig ar yr M25
Mae mwy nag 80 o gynlluniau ffordd newydd wedi cael eu cyhoeddi gan y Llywodraeth wrth iddi amlinellu sut y bydd yn gwario £15 biliwn ar draffyrdd a ffyrdd yn Lloegr dros y pum mlynedd nesaf.

Yn ôl y disgwyl, mae’r prosiectau’n cynnwys twnnel ar yr A303 ger Côr y Cewri yn Wiltshire, yn ogystal â gwario £1.5 biliwn ar lonydd ychwanegol ar rai traffyrdd.

Fe fydd gwelliannau hefyd i gyffyrdd ar yr M25, yr A27 yn Sussex, Lerpwl a’r A1 yng ngogledd ddwyrain Lloegr.

Mae’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth Patrick McLoughlin wedi dweud bod y strategaeth buddsoddi mewn ffyrdd yn un o’r rhaglenni mwyaf a phellgyrhaeddol ers degawdau.

Daw’r cyhoeddiad ddeuddydd cyn i’r Canghellor George Osborne gyhoeddi Datganiad yr Hydref.