Profi samplau ebola (Llun PA)
Mae dau blentyn yn cael profion am y clefyd Ebola wedi iddyn nhw gyrraedd gwledydd Prydain o Affrica, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Lloegr.

Dyw oedran y ddau blentyn ddim wedi ei gyhoeddi ond y gred yw eu bod nhw’n cael eu monitro mewn ysbyty yn Newcastle.

Dywedodd llefarydd ar ran Iechyd Cyhoeddus Lloegr ei bod yn “annhebygol” bod gan y plant yr haint marwol, ond eu bod yn cael eu monitro rhag ofn.

“Oherwydd ansicrwydd ynglŷn â’r rhan o Affrica lle mae’r plant yn dod, a phryd wnaethon nhw gyrraedd Prydain, mae’r ddau yn cael profion am Ebola a malaria,” meddai.

Bydd canlyniadau’r profion yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach heddiw.

Marwolaethau

Mae Ebola wedi lladd dros 5,000 o bobol, yn bennaf yn Guinea, Liberia a Sierra Leone.

Mae meddyg o Wynedd, Dr James Lavers, ymhlith grŵp o 30 o weithwyr y gwasanaeth iechyd gwladol sydd wedi gadael am orllewin Affrica i geisio trin cleifion yn y rhanbarth.