Mae’r plant mwyaf bregus mewn cymdeithas mewn perygl o gael eu hecsbloetio’n rhywiol oherwydd methiannau annerbyniol gan wasanaethau cymdeithasol, gweithwyr iechyd a’r heddlu, yn ôl adroddiad damniol gan Ofsted.

Dywedodd y corff sy’n goruchwylio addysg yn Lloegr, bod yr awdurdodau lleol wedi bod yn “rhy araf” i wynebu eu cyfrifoldebau i atal plant rhag cael eu hecsbloetio’n rhywiol, tra bod eraill a ddylai fod yn amddiffyn pobl ifanc wedi methu rhannu gwybodaeth gydag eraill.

Mae’r adroddiad hefyd yn beirniadu trefniadau ar lefel leol i fynd i’r afael ag ecsbloetio plant yn rhywiol a methiannau mewn arweinyddiaeth.

Dywedodd cyfarwyddwr cenedlaethol Ofsted, Debbie Jones: “Mae ecsbloetio plant yn rhywiol yn cael effaith andwyol ar blant, pobl ifanc a chymunedau.

“Ni all fod yn dderbyniol fod awdurdodau lleol a’u partneriaid yn parhau i fethu i fynd i’r afael a hyn yn effeithlon.

“Tra’n bod ni wedi darganfod esiamplau o ymarferiad gwych, mae’n glir bod rhai ardaloedd yn gweithredu’n gynt, ymhellach ac yn fwy effeithlon nag eraill.”

Ychwanegodd Debbie Jones: “Nid yw’n ddigon i aros i’r sgandal nesaf ddigwydd. Ry’n ni’n galw ar yr holl awdurdodau lleol a’u partneriaid i sicrhau bod ganddyn nhw strategaeth aml-asiantaeth a chynllun gweithredu mewn lle i fynd i’r afael ag ecsbloetio plant yn rhywiol.”

Daw’r adroddiad yn sgil cyfres o honiadau, cyhuddiadau ac ymddiswyddiadau sy’n gysylltiedig ag ecsbloetio plant yn rhywiol yn Rotherham, Rochdale, Rhydychen a Telford dros gyfnod hir.

Cafodd canfyddiadau’r adroddiad eu cyhoeddi heddiw ddiwrnod yn unig ar ol i Ofsted gael ei feirniadu am ei rôl yn y sgandal cam-drin plant yn Rotherham.