Leon Brittan - mae wedi gwadu anwybyddu'r ffeiliau
Mae’n ymddangos bod ymchwiliad wedi methu â dod o hyd i ffeiliau coll y Llywodraeth ynglŷn â cham-drin plant.

Yn ôl adroddiad ar raglen deledu’r BBC, Newsnight, fe fydd cyhoeddiad swyddogol yr wythnos nesa’n dweud bod y 114 o ffeiliau’n dal i fod ar goll.

Y rheiny sydd wedi bod ynghanol helyntion yr ymchwiliad i gam-drin, gyda’r cyn Ysgrifennydd Cartref, Leon Brittan, yn cael ei gyhuddo o’u hanwybyddu.

Oherwydd ei chysylltiadau gydag ef, roedd rhaid i’r gyfreithwraig Fiona Woolf, roi’r gorau i gadeirio’r panel sy’n cynnal yr ymchwiliad.

Y gred yw fod aelod seneddol Ceidwadol o’r enw Geoffrey Dickens wedi cyflwyno’r ffeiliau i’r Swyddfa Gartref yn 1983, pan oedd Leon Brittan yn Ysgrifennydd yno.

Yr ymchwiliad

Fe gafodd pennaeth elusen gwarchod plant yr NSPCC, Peter Wanless, ei benodi i ymchwilio i hanes y ffeiliau ond, yn ôl Newsnight, ddaeth y ffeiliau ddim i’r fei.

Yn ôl un AS sy’n amlwg am ymgyrchu ym maes cam-drin plant, dyw’r ymchwiliad ddim wedi cael digon o gefnogaeth.

“Dw i’n poeni bod Peter Wanless wedi cael ei roi mewn sefyllfa i fethu,” meddai Simon Danczuk wrth y BBC. “Dw i ddim yn credu ei fod wedi cael digon o amser, na chefnogaeth gan y Swyddfa Gartref.”