Lynne Featherstone
Fe fydd Lynne Featherstone AS yn cymryd lle Norman Baker fel gweinidog y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Swyddfa Gartref.

Roedd Norman Baker wedi ymddiswyddo ddoe, gan ddweud bod gweithio i’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May fel “cerdded drwy fwd.”
Mae’r AS hefyd wedi cyhuddo May o ystyried gweinidogion y Glymblaid fel “gog yn y nyth yn hytrach nag yn rhan o’r Llywodraeth.”

Gweithiodd Lynne Featherstone gyda Theresa May yn y Swyddfa Gartref am ddwy flynedd ac mae wedi bod yn Weinidog dros ddatblygu rhyngwladol ers 2012.

Mewn newidiadau eraill gan y Democratiaid Rhyddfrydol, mae Jenny Willott a Mark Hunter hefyd wedi gadael y llywodraeth.